Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Medi 2017
Amser:
09.01 -
09.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4364
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Claire O'Sullivan (Cynghorydd Cyfreithiol) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 357KB) Gweld fel HTML (142KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gytuno i aros am safbwyntiau'r deisebydd cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gytuno i anfon y wybodaeth fanwl a ddarparwyd gan y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan ofyn:
· a ellir defnyddio'r wybodaeth hon wrth lunio unrhyw asesiad yn y dyfodol o'r potensial ar gyfer gorsaf newydd yn yr ardal; ac
· a fydd cyfle i ystyried barn pobl leol yn ystod yr asesiad hwnnw.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gytuno i aros am ymateb ffurfiol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a gofyn am safbwyntiau'r deisebydd arno, gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd ar lwyddiant yr ymgyrch ar y cam hwnnw.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, gan gytuno i gau'r ddeiseb am nad oes cyllid ar gael gan y Llywodraeth i adeiladu'r gofeb. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am dynnu sylw'r deisebydd at bapur briffio'r Gwasanaeth Ymchwil, sy'n nodi sefydliadau ac elusennau a allai helpu â'r ymgyrch.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Stagecoach, gan gytuno i gau’r ddeiseb yn sgil y wybodaeth a gafwyd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:
· Trenau Arriva Cymru er mwyn rhannu sylwadau pellach y deisebydd a gofyn am ei ymateb i'r pryderon diogelwch a godwyd gan y deisebydd; a
· Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ofyn am ei farn ar y drafnidiaeth a ddarperir ar gyfer disgyblion yn Ysgol Treorci ac a ydyw wedi cael unrhyw drafodaethau am ddiogelwch y disgyblion sy'n defnyddio'r orsaf.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn a gafwyd unrhyw drafodaethau diweddar â Llywodraeth Cymru ynghylch gorsaf bŵer newydd ym Mhort Talbot, cyn ystyried pa gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd .
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan gytuno i ysgrifennu at y deisebydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd yn y dyfodol o ran y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd, gan gytuno i:
· ofyn am farn y deisebydd ar y cynigion a geir yn yr ymgynghoriad cyfredol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach parhaol newydd; ac
· annog y deisebydd i ymateb yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ymgynghoriad hefyd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i ofyn am ragor o sylwadau gan y deisebydd ac ystyried cau'r ddeiseb yn y cyfarfod nesaf os na ddaw ymateb i law.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a chytunodd i aros am safbwyntiau'r deisebydd cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd o ran y ddeiseb.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi ymwneud â’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) yn y gorffennol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a, gan gytuno i wahodd y deisebydd i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor gyda'r bwriad o wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gyfarfod yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil yr ymateb cadarnhaol a gafwyd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod trefniadaeth Llywodraeth Cymru yn fater i'r Prif Weinidog a chan fod gwybodaeth yn cael ei darparu'n rheolaidd yn ystod trafodion eraill y Cynulliad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r broses o adael yr UE. Wrth wneud hynny, ystyriodd yr Aelodau sylwadau a gafwyd gan y deisebydd ar ôl i'r papurau gael eu cyhoeddi, a oedd yn cydnabod, yn ôl pob golwg, nad oedd hi'n werth parhau â'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a'r deisebydd a chytunodd i:
· anfon sylwadau pellach y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet er gwybodaeth; a
· gofyn a ellid darparu copi o'r Archwiliad Diogelwch Ffyrdd Cam 4 at y deisebydd pan fydd y broses wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan gytuno i ofyn am farn y deisebydd ar y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a'r deisebydd a chytunodd i:
· gau'r ddeiseb, o gofio bod yr ardal hon wedi'i chynnwys yn y broses asesu manwl ar gyfer gorsafoedd newydd posibl; ac wrth wneud hynny
· anfon safbwyntiau'r deisebydd ar leoliad orsaf at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a gofyn iddo ystyried hyn fel rhan o unrhyw drafodaethau yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu llythyr pellach at Gyngor Bro Morgannwg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf pan benderfynir a ddylid bwrw ymlaen ag adroddiad Cam 2 Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ai peidio.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn iddo ystyried ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd yr aelodau i gau'r ddeiseb ac i ysgrifennu at y deisebydd i egluro mai mater i'r awdurdod lleol fyddai gwelliannau i'r rhan hon o'r A48.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor pan fydd canlyniad yr ymyrraeth chwe mis wedi'i thargedu bresennol, a'i heffaith ar amseroedd aros brys, yn hysbys.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i:
· wahodd y deisebydd i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth am ei deiseb ochr yn ochr â Hafal a'r deisebydd ar gyfer P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion; ac
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i roi gwybod iddo am y sesiwn dystiolaeth sydd ar ddod a nodi pa mor siomedig oedd y deisebydd â'i ymateb diweddaraf.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi gweithio yn y gorffennol mewn maes sy'n berthnasol i bwnc y ddeiseb ac wedi atgyfeirio achosion at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd o ran y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i wahodd y deisebwyr i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth am y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gofyn am ymateb i'r pryderon a godwyd gan y deisebydd, yn enwedig o ran:
· y posibilrwydd bod llai o opsiynau pwnc ar gael i ddisgyblion oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen; a
· phwysau ar gyllidebau ysgolion.
Derbyniwyd y cynnig.
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft a'i argymhellion.